Adnoddau i Rhieni a Gofalwyr

12 Aug 2013 UK SIC

Y thema ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni yw ‘Gadewch i Ni Greu Rhyngrwyd Gwell Gyda’n Gilydd’. Mae’n bwysig bod rhieni hefyd yn cymryd rhan a’u bod yn wybodus i sicrhau y gall eu plant gael y mwyaf allan o’r rhyngrwyd.

Mae’r UK Safer Internet Centre wedi creu cyflwyniad i rieni yn Prezi, a sgript i gyd-fynd â’r cyflwyniad, cychwynwyr sgyrsiau i rieni, llythyr i rieni i’w anfon adref, poster i hyrwyddo’r sesiwn i rieni, taflen wybodaeth i rieni gyda dolenni defnyddiol a rhestr wirio i rieni i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi gynnal sesiwn i rieni yn eich ysgol neu sefydliad ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

Lawrlwytho’r pecyn:

Lawrlwytho adnoddau unigol:

Cyflwyniad i rieni:

Lawrlwythwch y sgript a byddwch yn barod i gychwyn arni! Cliciwch ar y gornel ochr dde i weld sgrin lawn a defnyddiwch y saethau (neu eich bysellfwrdd neu gliciwr cyflwyno) i lywio’r cyflwyniad. http://prezi.com/embed/dbedf3a040561b7cdabe78cbd7a3b44f94a41d60/?bgcolor=ffffff&lock_to_path=1&autoplay=0&autohide_ctrls=0&features=undefined&disabled_features=undefined